Ann LloydROBERTSCaermeini, Llanuwchllyn. Hunodd yn dawel yn ei chartref, Rhagfyr 29ain 2022 yn 80 mlwydd oed. Gweddw'r diweddar Hedd. Mam a mam yng nghyfraith ofalus Robyn a'r diweddar Ellen, Heledd a Meilir, Non a Gareth. Nain addfwyn Daniel a Gwenlli, Sion, Ilan, Elis, Huw, Jac, Lowri a Swyn. Chwaer annwyl Llywela a Mary. Chwaer yng nghyfraith a modryb hoff. Cymdoges driw a ffrind i lawer. Cynhelir gwasanaeth coffa yn Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, brynhawn Llun, Ionawr 16eg am 1 o'r gloch. Derbynnir rhoddion er cof am Ann yn ddiolchgar, os dymunir, i'w rhannu rhwng elusennau lleol drwy law A.G.Evans a'i Feibion Cyf, Trefnwyr Angladdau, Ystâd Ddiwydiannol Y Bala, Gwynedd, LL23 7NL. Rhif Ffôn: 01678 520660
Keep me informed of updates